Mae CULT Cymru yn rhaglen ar y cyd rhwng yr undebau yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda gweithwyr diwydiant, cyflogwyr a sefydliadau eraill i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru.

Ein Gweithgareddau:

    • Sgiliau Busnes (Gweithio’n Llawrydd, Marchnata a Hyrwyddo, Ysgrifennu cais, Rhwydweithio, CVs…)
    • Sgiliau Digidol (Creu gwefannau, Cyfryngau cymdeithasol, Rhannu ffeiliau, Podlediad, Photoshop, CAD….)
    • Rôl Benodol (Colur a Gwallt, Camera, Blaen y Tŷ, Hyfforddi Llais, Dosbarthiadau Meistr Cerddoriaeth, Ysgrifennu ar gyfer Gemau….)
    • Statudol (Achrededig – Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf yn y Gwaith, Diogelwch Tân…
    • Iechyd Meddwl a Lles (Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Cydnerthedd, Meddwlgarwch…)
    • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Model Cymdeithasol o Anabledd, Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol, Creu Ymarfer Hygyrch….)
    • Hyfforddi yr Hyfforddwr ac Annog a Mentora 

Gweler ein Polisiau Preifatrwydd