Bectu Cymru – Mentora ar gyfer y Sgrîn
Mae Bectu Cymru yn recriwtio mentai a mentoriaid i gymryd rhan mewn rhaglen newydd gyffrous. Mae’r rhaglen wedi eu hanelu at bobl greadigol sy’n gweithio mewn rolau crefft, technegol neu chynhyrchu yn niwydiant teledu a ffilm Cymru.
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Sgiliau Sgrin ar ein rhaglen ‘Mentora i’r Sgrin’ newydd” meddai Siân Gale, Rheolwr Sgiliau a Datblygu Bectu Cymru. “Mae llawer o’n haelodau, sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni yn y Sector Sgrin, yn weithwyr achlysurol/llawrydd ac yn aml yn colli cyfleoedd gwerthfawr i gymryd rhan mewn perthynas fentora gyda chydweithwyr mwy profiadol a all eu cefnogi i ddatblygu mewn diwydiant buddiol ond ansicr i weithio ynddo”
Mae’r rhai sydd ar frig eu gyrfaoedd yn awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen hefyd:
“Roeddwn yn hynod ffodus o gael cefnogaeth mentor yn ystod fy ngyrfa ac rwy’n teimlo’n angerddol iawn am y cyfleoedd y gall mentora a hyfforddi eu greu i helpu i ysbrydoli’r dalent greadigol sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru” meddai Dylan Richards, Cyfarwyddwr Dogfennau a Drama sydd wedi ennill llawer o Wobrau yn y Diwydiant ac sydd yn fentor gyda Screen Skills
http://www.cultcymru.org/cy/mentora/
Cefnogir rhaglen ‘Mentora ar Gyfer y Sgrîn’ Bectu Cymru gan ScreenSkills, y corff sgiliau a arweinir gan y diwydiant ar gyfer diwydiannau sgrin y DU, gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd gan y BFI fel rhan o raglen Sgiliau Ffilm y Dyfodol. Darperir cefnogaeth ychwanegol drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru drwy cynllun dysgu yr undebau creadigol CULT Cymru.