Cyrsiau Coleg Caerdydd a’r Fro ar gael yn rhad ac am ddim trwy CULT Cymru!

Ceir cyrsiau ar-lein yn rhad am ddim drwy Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) a learndirect eleni.

Mae CULT Cymru wedi partneru gyda Choleg Caerdydd a’r Fro er mwyn edrych ar ffyrdd i’ch cefnogi drwy’r argyfwng Covid-19. Mae hyn yn gyfle i ymgymryd yn yr amser i loywi rhai o’ch sgiliau. Trwy’r rhaglen hon cewch fynediad i hyfforddiant ar-lein wedi’i ariannu’n llawn dros sawl maes gan gynnwys digidol/technoleg gwybodaeth, cyfathrebu, sgiliau busnes, rheoli prosiect… Mae’r rhestr yn helaeth iawn ac yn cynnwys dros 150 o gyrsiau ….

I weld y cyrsiau edrychwch trwy Cyrsiau Coleg Caerdydd a’r Fro 2020/21

Wrth archebu eich cwrs, defnyddiwch y ffurflen archebu ar-lein Coleg Caerdydd a’r Fro isod (ac nid gwefan LearnDirect a all godi y tâl llawn am unrhyw gyrsiau a archebir ar eu gwefan hwythau). Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, ewch i wefan LearnDirect .

Tra’n cwblhau’r ffurflen isod,  nodwch CULT Cymru fel eich sefydliad er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth yn rhad ac am ddim, ac phe baech yn byw y tu allan i Gaerdydd neu Bro Morgannwg yna defnyddiwch ein cyfeiriad ni yn y prifddinas:

1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD.

Dim ond un cwrs gellid archebu ar y tro, gallwch gofrestru ar fwy wedi cwblhau eich cwrs cyntaf. Fe fydd y wybodaeth yn y ffurflen isod yn cael ei ddanfon yn uniongyrchol at y tîm cofrestru yn Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a bydd eich manylion mewngofnodi yn cael eu ebostio atoch mewn tua 3-4 diwrnod.

Cofiwch ddod o hyd i fanylion eich cwrs dewisiedig yn gyntaf yn nogfen Excel Coleg Caerdydd a’r Fro 2020

Cyflwynwch eich ceisiadau am uchafswm o 1 cwrs ar y tro. Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch cais gael ei brosesu. Diolch yn fawr am eich amynedd.

Am unrhyw gymorth neu gefnogaeth am y cyrsiau Learndirect sydd ar gael trwy Goleg Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â Leanne Waring ar:

07542 230283 neu e-bostiwch LWaring@cavc.ac.uk .

Mwynhewch, ac edrychwn ymlaen at eich adborth. Cadwch yn iach a diogel.

Gellir dod o hyd i hysbysiad prefiatrwydd y coleg yma: Hysbysiad Preifatrwydd Coleg Caerdydd a’r Fro.  Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw eich helpu chi i ddeall sut mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth rydych yn ei rhannu drwy lenwi’r ffurflen hon.

Rhowch sylw

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.