Rhad ac am ddim – cyrsiau digidol ar lein trwy CULT Cymru!

Ceir cyrsiau ar-lein yn rhad am ddim drwy Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) a learndirect eleni. Bydd sesiwn panel ar Ddydd iau 10fed Rhagfyr yn esbonio mwy i chi os ydych chi ar gael amser cinio.

Mae CULT Cymru wedi partneru gyda Choleg Caerdydd a’r Fro er mwyn edrych ar ffyrdd i’ch cefnogi drwy’r argyfwng Covid-19. Mae hyn yn gyfle i ymgymryd yn yr amser i loywi rhai o’ch sgiliau. Trwy’r rhaglen hon cewch fynediad i hyfforddiant ar-lein wedi’i ariannu’n llawn dros sawl maes gan gynnwys digidol/technoleg gwybodaeth, cyfathrebu, sgiliau busnes, rheoli prosiect… Mae’r rhestr yn helaeth iawn ac yn cynnwys dros 150 o gyrsiau ….

I weld y cyrsiau edrychwch trwy Cyrsiau Coleg Caerdydd a’r Fro 2020

Wrth archebu eich cwrs, defnyddiwch y ffurflen archebu ar-lein Coleg Caerdydd a’r Fro isod (ac nid gwefan LearnDirect a all godi y tâl llawn am unrhyw gyrsiau a archebir ar eu gwefan hwythau). Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, ewch i wefan LearnDirect .

Tra’n cwblhau’r ffurflen isod,  nodwch CULT Cymru fel eich sefydliad er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth yn rhad ac am ddim, ac phe baech yn byw y tu allan i Gaerdydd neu Bro Morgannwg yna defnyddiwch ein cyfeiriad ni yn y prifddinas:

1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD.

Dim ond un cwrs gellid archebu ar y tro, gallwch gofrestru ar fwy wedi cwblhau eich cwrs cyntaf. Fe fydd y wybodaeth yn y ffurflen isod yn cael ei ddanfon yn uniongyrchol at y tîm cofrestru yn Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a bydd eich manylion mewngofnodi yn cael eu ebostio atoch mewn tua 3-4 diwrnod.

Cofiwch ddod o hyd i fanylion eich cwrs dewisiedig yn gyntaf yn nogfen Excel Coleg Caerdydd a’r Fro 2020

Cyflwynwch eich ceisiadau am uchafswm o 1 cwrs ar y tro. Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch cais gael ei brosesu. Diolch yn fawr am eich amynedd.

Am unrhyw gymorth neu gefnogaeth am y cyrsiau Learndirect sydd ar gael trwy Goleg Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â Leanne Waring ar:

07542 230283 neu e-bostiwch LWaring@cavc.ac.uk .

Mwynhewch, ac edrychwn ymlaen at eich adborth. Cadwch yn iach a diogel.

Gellir dod o hyd i hysbysiad prefiatrwydd y coleg yma: Hysbysiad Preifatrwydd Coleg Caerdydd a’r Fro.  Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw eich helpu chi i ddeall sut mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth rydych yn ei rhannu drwy lenwi’r ffurflen hon.

Rhowch sylw

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .