Chi’n Gêm!

Daeth y nifer ucha’ erioed o gyfranogwyr i’n sesiwn panel fideo Chi’n Gêm ar Ionawr 11.

Nod y sesiwn oedd tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector ffyniannus hwn i’r bobl greadigol hynny sy’n archwilio’r opsiynau i ddefnyddio sgiliau trosglwyddadwy tu hwnt i’w sgiliau traddodiadol mewn Teledu, Ffilm a’r Celfyddydau, yn enwedig lle mae gwaith yn brin oherwydd yr argyfwng Covid 19.

Cawsom drosolwg hynod ddiddorol o’r diwydiant gan ein panel o arbenigwyr, oedd yn cynnwys Dr. David Banner, MBE, cynhyrchydd a chyhoeddwr gemau, Ian Thomas, dylunydd naratif, Stafford Bawler, dylunydd sain, Amelia Tyler, artist llais a Kevin Ho, dylunydd gemau.

Cafwyd cyngor amhrisiadwy ar sut i dorri i mewn i’r diwydiant cyffrous hwn yn ogystal ag awgrymiadau da ar beth i’w osgoi. Rhwydweithio gyda phobol â’r un diddordebau – “dewch o hyd i’ch llwyth” – oedd un o argymhellion allweddol y panel, os am sefyll allan o’r dorf, a chadw i fyny â chyfleoedd.

Cawsom adborth gwych ar y sesiwn ac mae’n ymddangos bod awydd mawr gan aelodau o’r undebau creadigol yng Nghymru fod yn rhan o’r diwydiant deinamig hwn.

Cefnogwyd ‘Chi’n Gêm!’ gydag arian gan Creative Wales a Cronfa Dysgu Undebau Cymru (Llywodraeth Cymru).

Rhowch sylw

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .