Theatr Clwyd yn Llwyddo ar Lwyfan Rhyngwladol!

Mae Theatr Clwyd wedi ennill un o wobrau mwyaf mawreddog y Deyrnas Gyfunol sef ‘Theatr Ranbarthol y Flwyddyn’ papur newydd The Stage.

Canmolwyd y theatr am ei ymdrechion rhyfeddol i wasanaethu’r gymuned, cefnogi ei gweithlu, a chreu celf wrth wynebu rhai o gyfyngiadau anoddaf y Deyrnas Gyfunol. Ers mis Mawrth, mae wedi bod yn ganolfan rhoi gwaed, yn ganolbwynt i blant a theuluoedd bregus, ac maent yn gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol i ddosbarthu bwyd a pharseli celf.

Yn ogystal, mae’r theatr wedi ffrydio sioeau, wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i weithwyr llawrydd, ac wedi ennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn greadigol ar-lein trwy raglen ymgysylltu ddigidol, Theatr Clwyd Ynghyd.

Datganwyd gan y Cyfarwyddwr Gweithredol Liam Evans-Ford, a’r Cyfarwyddwr Artistig Tamara Harvey :

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi ennill y wobr bwysig hon. Rydym wastad wedi gwybod bod ein tîm yma yn Theatr Clwyd a’n tîm llawrydd ehangach yn eithaf anhygoel, ond mae eleni wedi profi hynny y tu hwnt i unrhyw un ddychmygu. Mae’r wobr hon ar eu cyfer nhw ac ar gyfer ein cynulleidfaoedd, cydweithredwyr, cyllidwyr a phawb sydd wedi ein cefnogi a’n helpu trwy’r cyfnod hwn.”

Mae’r Gwobrau The Stage, a lansiwyd yn 2010, yn tynnu sylw at gyflawniadau cwmnïau theatr ac unigolion ledled y DU ac yn fyd-eang. Roedd gwobrau 2020 yn cydnabod sefydliadau a aeth y tu hwnt i hynny wrth ymladd dros ddyfodol theatr yn ystod un o’r blynyddoedd anoddaf y mae’r diwydiant erioed wedi’i hwynebu.

Rhowch sylw

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .