Cyrsiau CAVC a Learn Direct am Ddim ar gael drwy CULT Cymru. Cofrestrwch erbyn ddiwedd mis Gorffennaf!
Dyma gyfle i’r rhai sy’n byw yng Nghymru i rhoi eu hamser i loywi eu sgiliau. Drwy ein rhaglen byddwch yn cael mynediad at hyfforddiant ar-lein wedi’i ariannu’n llawn sy’n cwmpasu nifer o feysydd gan gynnwys technoleg ddigidol/gwybodaeth, cyfathrebu, sgiliau busnes, ieithoedd… a llawer llawer mwy ….
I gael golwg drwy’r cyrsiau sydd ar gael cliciwch Cyrsiau Caerdydd a’r Fro 2020/21
Dim ond tan ddiwedd mis Gorffennaf 2021 y caiff y cyrsiau hyn eu hariannu’n llawn. Er hynny, bydd unigolion sydd wedi cofrestru erbyn 30 Gorffennaf yn gallu parhau i gwblhau ar ôl mis Gorffennaf.
Pan yn cofrestru gallwch ddewis hyd at bump cwrs.
Wrth archebu eich cwrs, defnyddiwch y ffurflen archebu ar-lein Coleg Caerdydd a’r Fro isod (ac nid gwefan LearnDirect a all godi y tâl llawn am unrhyw gyrsiau a archebir ar eu gwefan hwythau). Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, ewch i wefan LearnDirect .
Tra’n cwblhau’r ffurflen isod, nodwch CULT Cymru fel eich sefydliad er mwyn sicrhau’r ddarpariaeth yn rhad ac am ddim, ac phe baech yn byw y tu allan i Gaerdydd neu Bro Morgannwg yna defnyddiwch ein cyfeiriad ni yn y prifddinas:
1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD.
Dim ond un cwrs gellid archebu ar y tro, gallwch gofrestru ar fwy wedi cwblhau eich cwrs cyntaf. Fe fydd y wybodaeth yn y ffurflen isod yn cael ei ddanfon yn uniongyrchol at y tîm cofrestru yn Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a bydd eich manylion mewngofnodi yn cael eu ebostio atoch mewn tua 3-4 diwrnod.
Cofiwch ddod o hyd i fanylion eich cwrs dewisiedig yn gyntaf yn nogfen Excel Coleg Caerdydd a’r Fro 2020
Cyflwynwch eich ceisiadau am uchafswm o 5 cwrs ar y tro. Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch cais gael ei brosesu. Diolch yn fawr am eich amynedd.
Am unrhyw gymorth neu gefnogaeth am y cyrsiau Learndirect sydd ar gael trwy Goleg Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â Leanne Waring ar:
07542 230283 neu e-bostiwch LWaring@cavc.ac.uk .
Mwynhewch, ac edrychwn ymlaen at eich adborth. Cadwch yn iach a diogel.
Gellir dod o hyd i hysbysiad prefiatrwydd y coleg yma: Hysbysiad Preifatrwydd Coleg Caerdydd a’r Fro. Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw eich helpu chi i ddeall sut mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth rydych yn ei rhannu drwy lenwi’r ffurflen hon.