Darllenwch y canllaw i lawryddion fan hyn: Gweithio gyda Llawryddion Creadigol
Wrth i Gymru ddathlu wythnos Dydd Gŵyl Dewi, roedd CULT Cymru (Undebau Creadigol yn Cyd-ddysgu) wedi lansio canllaw arferion gorau dwyieithog newydd er mwyn cryfhau bywydau gwaith gweithwyr llawrydd creadigol yn y sector diwylliannol. Mae’r adnodd yn dangos sut y gall newidiadau bach, meddylgar gan ymgysylltwyr a sefydliadau gael effaith drawsnewidiol ar les, diogelwch, tegwch a gwaith teg.
Mae llawryddion yn ffurfio’r mwyafrif o’r gweithlu creadigol yng Nghymru, ond yn aml maent yn wynebu diffyg cefnogaeth, amodau gwaith anghyson yn ogystal â mynediad anghyson i weithleoedd diogel sy’n eu parchu. Mae’r canllaw newydd yn dwyn ynghyd gamau clir, ymarferol y gall sefydliadau o bob maint eu defnyddio i greu amgylcheddau gwaith iachach, tecach a mwy cynaliadwy.
Wedi’i ddatblygu gan CULT Cymru fel rhan o’r gwaith parhaus i gefnogi gweithlu creadigol Cymru, mae’r canllaw yn efelychu canllawiau cydnabyddedig undebau llafur er mwyn cefnogi amodau gwaith teg ac iach. Mae’n cwmpasu cyfathrebu clir, recriwtio cynhwysol ac arferion gweithio diogel yn ogystal ag anghenion mynediad, cymorth iechyd meddwl a chytundebau teg.
Mae’r adnodd wedi cael ei groesawu gan bartneriaid cenedlaethol gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a TUC Cymru. Eleni, bydd yn cael ei gynnwys mewn cynigion i Gyngres TUC Cymru a Chyngres TUC ar gyfer y De-orllewin, gan gydnabod ei berthnasedd ehangach i les a gwaith teg yn yr economi greadigol.
Mae’r canllaw ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac fe’i bwriedir i’w ddefnyddio gan leoliadau, cynhyrchwyr, rheolwyr, sefydliadau yn ogystal â gweithwyr llawrydd. Mae’n rhan o raglen ehangach CULT Cymru o hyfforddiant, cymorth lles ac eiriolaeth gwaith teg a ariennir drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru a Cymru Greadigol.
Gellir darllen y canllaw i lawryddion fan hyn: Gweithio gyda Llawryddion Creadigol
Dyfyniadau
“Mae llawryddion yn hanfodol i’r diwydiannau creadigol, ac mae ein Cyfrifiad Cerddorion yn dangos bod 72% o gerddorion yn llawrydd; naill ai trwy eu holl yrfa neu fel rhan ohono. Maent yn haeddu cyflog teg, gweithleoedd diogel a chyfathrebu clir, parchus ble bynnag y maent yn gweithio. Mae’r canllaw hwn yn nodi camau cyraeddadwy y gall sefydliadau eu cymryd i wella amodau a chefnogi lles y gweithlu llawrydd trwy’r sector.” – Naomi Pohl, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Cerddorion
“Mae sector creadigol Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r economi, ein diwylliant a lles ein dinasyddion. Yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol – lle mae Llywodraeth Cymru, cyflogwyr ac undebau yn cyd-weithio – mae’r undebau creadigol yn falch o gyflwyno’r canllaw ymarferol hwn i gefnogi sefydliadau sy’n ymgysylltu â llawryddion.
Mae sector ffyniannus sy’n cynrychioli ein cymunedau yn dibynnu ar gadw a denu gweithlu amrywiol, gan gefnogi iechyd meddwl cadarnhaol heb wahaniaethu. Trwy feithrin amodau gwaith teg ac iach i weithwyr llawrydd creadigol, gallwn gryfhau’r diwydiant a sicrhau ei fod yn parhau i gynhyrchu gwaith ysbrydoledig o ansawdd uchel yn genedlaethol ac yn fyd-eang.” – Siân Gale, Rheolydd Sgiliau a Datblygiad CULT Cymru
“Mae gweithwyr llawrydd yn haeddu urddas, parch, cyflog teg a thelerau gweddus, y pethau sylfaenol y dylai pob gweithiwr ei gael. Mae’r canllaw hwn yn torri trwy’r sŵn ac yn nodi’n glir sut y dylai triniaeth deg edrych ar draws ein sector creadigol ffyniannus yng Nghymru. Dim mwy o linellau aneglur na niwed y gellir ei osgoi: os ydym yn gwerthfawrogi gweithwyr llawrydd, mae’n rhaid i ni ddangos hynny yn y ffordd rydyn ni’n gweithio gyda nhw.” – Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi cyflwyno’r canllawiau Gweithio gyda Llawryddion Creadigol yn llawn. Hyrwyddwn yr egwyddor o dalu artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn deg, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch, lles a llesiant pawb yr ydym yn rhyngweithio â nhw.” – Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru
“Mae TAC yn croesawu’n fawr y Canllaw i Weithwyr Llawrydd sy’n rhoi cyngor clir ac ymarferol i greu gweithle teg ac iach i bawb. Mae’r adnodd hwn yn tynnu sylw at y camau bach ond pwysig y gallwn ni i gyd eu cymryd i sicrhau arfer gorau. Mae’n hanfodol ein bod yn gofalu am ein gweithwyr llawrydd sy’n asgwrn cefn y sector cynhyrchu, a’u bod yn parhau i fod ar gael i’r diwydiant rydym yn gweithio ynddo i sicrhau dyfodol llwyddiannus.” – Llŷr Morus, Cadeirydd TAC
“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r canllaw pwysig hwn i weithio gyda gweithwyr llawrydd creadigol. Mae lles diwylliannol yn ganolog i weledigaeth Cymru o’r dyfodol yr ydym ei eisiau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac mae’r sector llawrydd yn hanfodol i sicrhau hyn. Mae’r canllaw hwn yn amserol, gan nodi set o ganllawiau defnyddiol iawn i’r rhai sy’n comisiynu llawryddion creadigol er mwyn eu helpu i sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n cefnogi arferion gweithio teg, yn ogystal â diogelu lles ymarferwyr llawrydd sy’n gweithredu yn y sector.” – Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru