Ein cynllun yn cyhoeddi buddsoddiad parhaus i gefnogi gweithwyr a chyflogwyr ledled Cymru.
Mae ein partneriaeth rhwng undebau llafur y diwydiannau creadigol dan arweiniad Bectu mewn partneriaeth ag Equity, Undeb y Cerddorion ac Urdd Awduron Prydain Fawr, yn falch o gyhoeddi cefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026-2027.
Bydd y gefnogaeth hon yn galluogi cam nesaf gwaith arloesol i ymgorffori arferion gwaith meddyliol iach a diogel yn sectorau teledu, ffilm, digwyddiadau byw a chelfyddydau Cymru, gan sicrhau bod pob person yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u clywed.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn pedair blynedd o waith undebol yn mynd i’r afael â’r pwysau sy’n effeithio ar weithwyr creadigol. Yn llawer rhy aml, mae disgwyl i weithwyr llawrydd a staff wynebu oriau hir, ansicrwydd, bwlio, gwahaniaethu a phwysau diddiwedd wrth weithio yn y diwydiannau creadigol.
Gan weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr lles 6ft from the Spotlight, cyflogwyr a chyrff diwydiant, rydym wedi bwrw ati i newid hynny. Mae’r dystiolaeth yn dangos ei fod yn gweithio.
Dyma drafodaeth o’n cynhadledd ym mis Mawrth:
^ Cyfraniad Elis Roberts, Llawrydd i’n cynhadledd Newid y Diwydiannau Creadigol ^
Ym mis Mawrth 2026, ynghyd ag undebau, cyflogwyr, darlledwyr, cynrychiolwyr y gweithlu a phartneriaid diwydiant roedd ein tîm wedi mynychu cynhadledd Newid y Diwydiannau Creadigol.
Dathlodd y gynhadled gynnydd y sector, ac atgyfnerthu’r consensws cynyddol yn y diwydiant bod gweithleoedd meddyliol iach yn dibynnu ar amodau gwaith teg, arweinyddiaeth atebol a gweithwyr sydd yn cael eu clywed.
Un thema amlwg yn y trafodaethau oedd yr angen am newid diwylliannol hirdymor yn y diwydiannau creadigol; a sicrhau bod diogelwch, urddas a chynhwysiant yn cael eu trin fel rhannau hanfodol o ymarfer cynhyrchu yn hytrach nag opsiynau dewisol.
Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle i lansio adroddiad ymchwil Jess Lancashire ‘Uno ar gyfer cynyrchiadau iachach’ (Mawrth 2026) sy’n nodi datblygiad y cynllun Hwylusydd Llesiant;
ers 2022 mae dros 50 o gynyrchiadau teledu a ffilm ledled Cymru wedi cael eu cefnogi gan Hwyluswyr Lles hyfforddedig – rôl ddiduedd sy’n helpu meithrin amgylcheddau gwaith gwirioneddol fwy diogel.
Mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol gyda dros 95% o gynhyrchwyr a gweithwyr yn datgan y buasent eisiau HLl ar gynyrchiadau yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad yn tanlinellu’r hyn y mae undebau a gweithwyr wedi dadlau ers amser maith: ni ellir gwahanu iechyd meddwl gwael yn y gwaith o gyflogaeth ansicr, anghydraddoldeb, llwythi gwaith afrealistig a diwylliannau gwaith anniogel. Mae’n cadarnhau nad yw lles yn fater “meddal” ond yn un strwythurol sy’n gofyn am atebion diwydiant a chyfrifoldeb ar y cyd. Mae’n ddarlleniad hanfodol i unrhyw un sy’n gweithio mewn neu gomisiynu cynyrchiadau sgrin yng Nghymru.
Dywedodd Siân Gale, Rheolydd Sgiliau a Datblygiad, CULT Cymru:
“Mae sector creadigol Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n heconomi, ein diwylliant a lles ein dinasyddion. Mae’r dull partneriaeth gymdeithasol hwn, lle mae Llywodraeth Cymru, undebau, cyflogwyr a chyrff diwydiant yn gweithio ar y cyd, yn rhoi cyfle unigryw i newid diwylliant y diwydiant yn radical fel bod Cymru yn gyrchfan i fusnesau creadigol a’r gweithlu oherwydd ei harferion gwaith teg a chynhwysol’.
Dywedodd Llŷr Morus, Cadeirydd TAC:
“Mae TAC wrth ei fodd gyda’r newyddion bod CULT Cymru wedi sicrhau cyllid i barhau â’i waith arloesol i gefnogi llesiant ar draws diwydiannau creadigol Cymru.
Mae’r cynllun Hwyluswyr Lles wedi bod yn enghraifft ardderchog o sut y gall cydweithio rhwng cyrff diwydiant, undebau a chyflogwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gefnogi iechyd meddwl a lles yn y gweithle.
Rwy’n falch iawn bod nifer o aelodau TAC wedi elwa o’r cynllun, sy’n chwarae rhan bwysig wrth sicrhau amgylcheddau gwaith diogel, iach a theg ar gynyrchiadau.”
+
Mae CULT Cymru hefyd wedi lansio Gweithio gyda Llawryddion Creadigol, canllaw arfer gorau dwyieithog newydd sydd wedi’i gynllunio i gryfhau bywydau gwaith a lles y gweithlu.
Mae’n dwyn ynghyd ddulliau ymarferol sy’n helpu sefydliadau i weithio’n fwy teg a chefnogol gyda gweithwyr llawrydd, gan greu amodau sy’n gwneud gwaith creadigol yn fwy cynaliadwy.
Wedi’i siapio gan arweiniad undeb a phrofiadau gweithwyr llawrydd eu hunain, mae’r canllaw yn dangos sut y gall newidiadau bach, meddylgar gan ymgysylltwyr a sefydliadau gael effaith drawsnewidiol ar les, diogelwch, tegwch a gwaith teg.