DIWEDDARIAD – Hwylusydd Lles

Mae CULT Cymru wedi cychwyn ar peilot Hwylusyr Lles gyda 6ft from the Spotlight – y nod yw i gefnogi y gweithlu a’r cynhyrchwyr yn y diwydiant sgrîn .Cofiwch dweud “Siwmai” os welwch chi nhw gyda Gogglebocs, Swnllyd, Chwarel, Cwmni Da, Steeltown Murders, neu Nyrsys. Mwy I ddod cyn bo hir…

Chi’n Gêm!

Daeth y nifer ucha’ erioed o gyfranogwyr i’n sesiwn panel fideo Chi’n Gêm ar Ionawr 11. Nod y sesiwn oedd tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael yn y sector ffyniannus hwn i’r bobl greadigol hynny sy’n archwilio’r opsiynau i ddefnyddio sgiliau trosglwyddadwy tu hwnt i’w sgiliau traddodiadol mewn Teledu, Ffilm a’r Celfyddydau, yn … Read more

Theatr Clwyd yn Llwyddo ar Lwyfan Rhyngwladol!

Mae Theatr Clwyd wedi ennill un o wobrau mwyaf mawreddog y Deyrnas Gyfunol sef ‘Theatr Ranbarthol y Flwyddyn’ papur newydd The Stage. Canmolwyd y theatr am ei ymdrechion rhyfeddol i wasanaethu’r gymuned, cefnogi ei gweithlu, a chreu celf wrth wynebu rhai o gyfyngiadau anoddaf y Deyrnas Gyfunol. Ers mis Mawrth, mae wedi bod yn ganolfan … Read more