Rhaglenni Iechyd Meddwl CULT Cymru

Nod CULT Cymru yw gweithio gyda phartneriaid i greu diwydiant creadigol tecach, mwy cynhwysol y gall pob un ohonom fod yn falch ohono.

Os ydych chi’n cyflwyno cynlluniau iechyd meddwl a lles yn y sector creadigol yng Nghymru, cysylltwch â: cultcymru@bectu.org.uk

E-bost: Siân Gale – sian@bectu.org.uk neu siwan@bectu.org.uk

E-bost: cultcymru@bectu.org.uk

Tel: 02920 990131

 

 

Hyfforddiant Iechyd Meddwl

Hyfforddiant yr ydym yn ei gynnig gyda phartneriaid:

Hyfforddiant Iechyd Meddwl a Lles

  • Iechyd Meddwl a’r Gyfraith
  • Polisïau Iechyd Meddwl a Lles
  • Asesiadau Risg Straen Iechyd Meddwl
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru
  • Iechyd Meddwl Cadarnhaol i-Act yn y Gwaith i Reolwyr
  • Gwydnwch Emosiynol Cynaliadwy
  • Creu timau sy’n ddiogel yn seicolegol
  • Diogelu ar gyfer Criw a Chyfranwyr Agored i Niwed
  • Strategaethau i ymdopi â Bwlio ac Aflonyddu
  • Ymyriadau Cadarnhaol yn y Gweithle
  • Moeseg a Ffiniau’r Rôl Hwylusydd Lles

Hyfforddiant Cydraddoldeb

  • Hyfforddiant Cydraddoldeb Hiliol
  • Hyfforddiant Gweithredu Cydraddoldeb Anabledd
  • Niwroamrywiaeth ar gyfer pobl greadigol
  • Awtistiaeth ar gyfer pobl greadigol

Hyfforddiant

  • Hyfforddiant ILM
  • Mentora i Greadigwyr

 

Sesiynau Iechyd Meddwl Café CULT 

Fel rhan o’n gwaith gyda’r gymuned greadigol rydym yn trefnu sesiynau bach ar-lein o’r enw “Café CULT Iechyd Meddwl” i glywed straeon personol ac i gyflwyno a rhannu gwybodaeth am elusennau a sefydliadau cymorth.

Rydym wedi cynnal sesiynau gyda llawer o sefydliadau gwych gan gynnwys: yr elusen Ffilm a Theledu, Help Musicians, Mind Cymru, Beat, Papyrus, Amser i Newid Cymru ac ati.

Gan amlaf ry ni’n gwahodd 2 neu 3 o sefydliadau yn yr un maes. Mae’r fformat fel arfer yn gyflwyniad 10 munud gan bob sefydliad er mwyn cyflwyno eu hunain ac egluro beth maen nhw’n ei wneud (wedi’i anelu at y sector creadigol). Wedi’i ddilyn gan sesiwn Cwestiwn ac Ateb.

 

 

Peilot Hwyluswyr Lles

Mae CULT Cymru, cyflogwyr, a Llywodraeth Cymru wedi dod ynghyd ag arbenigwyr iechyd meddwl a lles 6ft from the Spotlight i fynd i’r afael â phroblem iechyd meddwl yn y diwydiant sgrin drwy osod Hwyluswyr Lles ar gynyrchiadau.

Unigolyn diduedd sydd wedi’i hyfforddi’n llawn ydy Hwylusydd Lles a all helpu’r cwmni fodloni dyletswydd gofal cyfreithiol o’r cast a chriw, a all gynghori Penaethiaid Adrannau ar faterion megis bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, lleihau straen ac atal problemau sy’n codi o sefyllfaoedd gwaith anodd.

 

 

Prosiect Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Yn dilyn ein gwaith helaeth parthed iechyd meddwl a lles, sy’n cynnwys hyfforddi dros 150 o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl o’r sector dros y chwe blynedd diwethaf, mae CULT Cymru yn arwain ar brosiect sy’n canolbwyntio ar rôl Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y sector creadigol, yn enwedig digwyddiadau byw o’r enw “Siwmai” “How are you?”.

Mae gweithwyr creadigol yn aml yn wynebu heriau unigryw wrth reoli eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae CULT Cymru yn cydweithio â sefydliadau sy’n gweithio gyda gweithwyr creadigol, i archwilio rôl Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a sut y gallant helpu i fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl gweithwyr creadigol yng Nghymru, yn enwedig gweithwyr llawrydd.

Mae ein prosiect yn ceisio magu dealltwriaeth ddyfnach o sut y gallai sefydliadau ymgorffori Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn eu systemau cefnogi ar gyfer gweithwyr creadigol.

Trwy’r gwaith hwn rydym yn hyfforddi mwy na 15 swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn sefydliadau, ac yn creu rhwydwaith cymorth cyntaf iechyd meddwl ar gyfer y sector. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i ddysgu o’u profiadau, eu heriau a’u syniadau ynghylch cefnogi iechyd meddwl a lles pobl greadigol.