FAQ _Hwylusydd Lles

 

Does gennym ni ddim y gyllideb ar gyfer rôl arall, sut allwn ni fforddio hyn?

Hawdd! Diolch i gyllid gan Cymru Greadigol, gall cwmnïau cynhyrchu wneud cais hawdd am grant o hyd at £15,000 i dalu am Hwylusydd Lles – ffurflen gais hawdd yma.
https://cult.cymru/cy/wellbeing-facilitor-pilot-grant-for-production-companies/

 

Rydyn ni’n gwmni bach ac allwn ni ddim fforddio Hwylusydd Lles llawn amser, felly allwn ni barhau i gydweithio?

Wrth gwrs! Waeth beth yw maint eich cwmni cynhyrchu gallwch barhau i wneud cais am gyllid, ac mae opsiynau ar gael i chi. Mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac rydym yn gweithio i sicrhau bod pob cwmni cynhyrchu yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth/cymorth hwn.

 

Rydym eisoes yn eithaf prysur a does gennym ni ddim y amser i fod yn bresennol i rôl arall eto, oes rhaid i ni wneud mwy o waith i gael Hwylusydd Lles? 

Na! Rôl Hwylusydd Lles yw gweithio gyda chi a’ch cefnogi chi a’ch cwmni / gweithlu. Mae’r rôl yn bresennol fel trydydd parti niwtral a bydd yn cefnogi gyda’r polisiau penodol (cynlluniau lles/ asesiadau risg/bwlio ac aflonyddu ac ati), os nad ydyn nhw eisoes ar waith. Meddyliwch am y rôl hon fel HoD a fydd yn creu amgylchedd gweithio mwy diogel a hapusach i bawb, yn helpu i gadw criw/cast a’ch cefnogi gyda’r gwaith o gyflawni cynnwys creadigol rhagorol.

 

Rydyn ni’n symud o gwmpas llawer, ar leoliadau, ac nid oes gennym y gyllideb i ddarparu ar gyfer treuliau ar gyfer Hwylusydd Lles, felly sut all hyn weithio?

Nid oes rhaid i Hwylusydd Lles fod yn y swyddfeydd lleoliad/cynhyrchu bob amser, er bod pwyntiau cyffwrdd wyneb yn wyneb yn hanfodol er mwyn cael ymddiriedaeth ac adeiladu perthynas waith. Mae’r rôl yn hygyrch o bell hefyd, drwy destunau/galwadau/Zoom, yn ogystal â bod yn ar leoliad lle bo angen. Felly, gall y rôl fod yn gyfuniad o chefnogaeth wyneb yn wyneb a chefnogaeth o bell.  Ond mae disgwyl i gwmnïau dalu am unrhyw dreuliau fel cynhaliaeth, treuliau teithio a dros nos os oes angen.  Bydd hyn i’w drafod gyda 6 Ft From the Spotlight yn y cyfarfod cynllunio.

 

Mae gennym griw sy’n Cymorthwyr Cyntaf Iechyd Meddwl, felly pam fod angen Hwylusydd Lles?

Er ei bod yn wych bod gennych chi weithwyr llawrydd/staff ar gael fel MHFA’s, mae’n nhw hefyd yn gweithio eu rôl llawn amser; a bydd yn brysur ac o bosib yn dan bwysau eu hunain. Mae Hwylusydd Lles yn rôl annibynnol gall gynorthwyo pawb; ac mae wedi’i yswirio’n llawn ac mae’n dod gyda goruchwyliaeth a chefnogaeth gefndirol trwy 6 Ft From the Spotlight. Unwaith eto, meddyliwch am yr Hwylusydd Lles sy’n gweithredu fel HoD i bawb sy’n cael eu hyfforddi gan MHFA, a gallu gwirio arnynt.

 

Sut mae adennill cost yr Hwylusydd Lles?

Yn dilyn eich cais bydd Rhian, Cydlynydd CULT Cymru, yn cysylltu â chi a fydd yn trefnu cyfarfod ar-lein rhwng eich hunain a 6Ft From the Spotlight.  Unwaith y byddwch wedi cytuno â 6 Ft From the Spotlight bydd yr hyn sy’n ofynnol yn ddyddiad cychwyn yn cael ei gytuno.  Y cwmni cynhyrchu fydd yn talu taliadau ar gyfer yr Hwylusydd Lles i 6 Ft From.  Ar ôl i’r taliad yma gael ei brosesu byddwch yn anfon anfoneb Bectu/CULT Cymru ar gyfer y cyllid grant.  Mae hyn i’w drafod gyda 6 Ft From  a Bectu/CULT Cymru yn ystod y cyfarfod dechreuad (e.e. mae modd i daliadau fod yn fisol neu beth bynnag sy’n gweddu i’r cwmni a’r 6 Ft From the Spotlight.