Hwyluswyr Lles

Beth House

Mae Beth wedi bod yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ers diwedd y 90au. Yn dilyn gyrfa fel actor teithiol, cyd-sefydlodd gwmni theatr yng Nghymru i gyflogi a meithrin gweithwyr proffesiynol creadigol byddar ac anabl.

Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn dod o hyd i ffyrdd o gefnogi pobl sydd wedi’u tangynrychioli yn y celfyddydau, “ar ac oddi ar y llwyfan”! Ar ôl gwneud darnau o hyfforddiant iechyd meddwl dros y blynyddoedd, ac ar ôl cefnogi pobl greadigol sy’n wynebu heriau o ran lles a bod yn rhwystredig na allai wneud mwy i helpu, neidiodd Beth ar y cyfle i wella ei sgiliau a’i dealltwriaeth drwy’r hyfforddiant Hwylusydd Lles.

Ar hyn o bryd, mae Beth hefyd ar raglen Arweinyddiaeth Gynhwysol Chwarae Teg, yn dysgu Cymraeg ac mae ganddi sgiliau Iaith Arwyddion Prydain sgyrsiol. Mae hi’n brofiadol iawn mewn gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ac mae’n teimlo’n gyffrous iawn i gefnogi pobl sy’n gweithio yn y diwydiant.

 

Carys Mol

Mae Carys Mol yn gynhyrchydd/hwylusydd prosiectau celf sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, yn ogystal â rheolwr cerddoriaeth a hyfforddwr iechyd dan hyfforddiant. Boed yn ŵyl stryd, perfformiad theatr neu ddigwyddiad untro, mae hi’n angerddol am gefnogi pobl greadigol i ffynnu yn yr hyn maen nhw am wneud.

Dros yr wyth mlynedd diwethaf mae Carys wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer cleientiaid gan gynnwys Articulture, Theatr Volcano, Stiwdio Owen Griffiths, Gentle/Radical, Canolfan Celfyddydau Taliesin a’r ŵyl ffotograffiaeth “Unseen”. Yn ogystal, treuliodd ddwy flynedd wych fel Cynhyrchydd Cynorthwyol i Hijinx, gan gefnogi actorion niwroamrywiol ar deithiau cenedlaethol a rhyngwladol ac ar set.

Fel nifer o bobl, mae Carys wedi cael ei phrofiadau ei hun o iechyd meddwl gwael ac mae’n gwybod yn uniongyrchol bwysigrwydd dod o hyd i gymorth. Felly, mae Carys wrth ei bodd yn hyfforddi fel Hwylusydd Lles, er mwyn darparu cefnogaeth hanfodol i eraill yn y diwydiannau creadigol.

Yn gyn-fyfyriwr o Goleg Yr Iwerydd (Cymru) a Choleg Prifysgol Utrecht (Yr Iseldiroedd), ar hyn o bryd mae Carys wedi’i lleoli yn Sir Benfro.

 

Eve Richardson

Mae gan Eve dros 10 mlynedd o brofiad mewn cynhyrchu Teledu dogfen ffeithiol. Dechreuodd ei gyrfa yn Llundain lle cafodd gyfoeth o brofiad mewn rhaglenni ffeithiol drudfawr megis “24 Hours in A&E” a “24 Hours in Police Custody”. Roedd pwnc y cyfresi hon yn gofyn am sensitifrwydd, empathi a gofal wrth weithio gyda chyfranwyr yn adrodd eu straeon. Dyma sut ddechreuodd diddordeb Eve mewn lles pobl ar y sgrin – ac oddi ar.

Yn fwy diweddar, ar ôl symud yn ôl i’w thref enedigol Caerdydd yn 2018, cwblhaodd Eve dystysgrif mewn sgiliau cwnsela ac mae’n bwriadu parhau â’i hastudiaethau er mwyn bod yn gwnselydd ardystiedig.  Mae Eve yn angerddol am weithredu arferion llesiant da mewn cwmnïau Cynhyrchu Teledu Ffeithiol ac mae’n gobeithio cynorthwyo ymdrechion y diwydiant i ofalu am les eu staff a’u cyfranwyr. Gan gyfuno ei phrofiad yn y diwydiant â’i sgiliau cwnsela, mae Eve yn gobeithio gwella dulliau cyffredinol y diwydiant o ofalu am iechyd meddwl pobl.

 

Kay Pointing

Mae Kay wedi mwynhau taith yrfa eclectig ers ymuno â’r gweithlu yn ystod rhan olaf yr ’80au. Mae ei chariad cyntaf – sef ffilm a theledu – wedi cael lle amlwg gyda gwyriadau i’r diwydiannau cyfathrebu corfforaethol, teithio a lletygarwch. Mae cyfle i fyw yn y Caribî a chariad at y mor wedi arwain iddi fod yn hyfforddwr deifio, a pherchen ar ganolfan deifio yn y pen draw. Dewisodd “Pirates of the Caribbean” ffilmio ar yr ynys lle’r oedd wedi’i lleoli, a chanfu Kay ei hun yn darparu cymorth morol i un o fasnachfreintiau mwyaf Disney, ac yn agor busnes cymorth lleoliad a gynorthwyodd y rhai a ddaeth i St. Vincent a’r Grenadines yn dilyn llwyddiant y ffilm.

Mae hi wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar ffilmiau mawr llwyddiannus, drama deledu, rhaglenni dogfen, hanes naturiol, adloniant ffeithiol, a hysbysebion yn bennaf o fewn yr adran lleoliadau.

Ers dychwelyd i’r DU a gwneud De Cymru yn gartref iddi, mae Kay wedi canolbwyntio ar adeiladu ar brofiadau yn y gorffennol, ac wedi buddsoddi mewn hyfforddiant a thwf. Mae gweithio fel Hwylusydd Lles yn rhoi cyfle iddi gymryd rhan weithredol yn y symudiad tuag at newid mae mawr ei angen; o ddeall a gwella ymwybyddiaeth iechyd meddwl o fewn y diwydiant sgrin.

 

Marian Ifans

Mae gan Marian dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant radio a theledu fel cynhyrchydd newyddion ,materion cyfoes a rhaglenni cyffredinol. Wedi ymuno gyda’r BBC yn yr 80au fe adawodd i weithio fel cynhyrchydd llawrydd cyn sefydlu cwmni cynhyrchu annibynnol ‘Sylw’. Mae’n werthfawrogol o’r holl brofiadau a’r amrywiaeth mae wedi eu cael yn sgil y gwaith yn ogystal â chwmni cyd-weithwyr arbennig ar hyd y blynyddoedd.

Ar ôl 14 mlynedd o gynhyrchu rhaglen fyw bob bore Sul ar BBC Radio Cymru fe benderfynodd newid cyfeiriad yn 2022. Mae’n parhau i gynhyrchu rhaglenni i’r BBC ond bellach yn cael y penwythnosau’n rhydd! Mae Marian yn falch iawn o fod yn un o Hwyluswyr Lles Cymru ac yn edrych ymlaen at helpu i sicrhau diwydiant sgrin iachach a hapusach yng Nghymru.

 

 

Rhian Jones

Mae Rhian yn artist, gwneuthur, rheolwr prosiect, cynhyrchydd creadigol a hwylusydd gweithdai. Ar ôl gweithio ar lefel uwch yn y celfyddydau am dros 25 mlynedd mae’n defnyddio ei phrofiad i gefnogi artistiaid eraill a chyflwyno prosiectau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ddysgu creadigol, adfywio cymunedol a rheoli newid.

Yn wreiddiol yn artist traddodiadol, roedd hi’n fyfyriwr ôl-raddedig mewn Cynhyrchu Ffilm yng ngholeg brenhinol celf RCA ac mewn Rheolaeth Celfyddydau Proffesiynol yn y Drindod Dewi Sant.

Roedd Rhian yn rhan o’r tîm gwreiddiol a sefydlodd National Theatre Wales, hi oedd Cydlynydd Cymru ar gyfer Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, sefydlodd Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg Canolbarth a Gorllewin Cymru NAWR,  ac yn fwy diweddar, ‘Ways of Working’ gyda’r artistiaid Owen Griffiths a Fern Thomas. Ganddi ei stiwdio gemwaith ei hun, Oren.

Cymhelliant Rhian ar gyfer ymgymryd â rôl yr Hwylusydd Lles er mwyn creu amgylcheddau gwaith mwy cyfartal a chadarnhaol yn y Diwydiannau Creadigol. Mae ymdeimlad o le, diwylliant, iaith a chynwysoldeb yn greiddiol i’w gwaith, mae’n gweithio’n ddwyieithog yn Saesneg a Chymraeg Cymraeg

 

Sally Lisk -Lewis

Bu Sally Lisk-Lewis yn gweithio yn y diwydiant teledu am dros 20 mlynedd, gan godi i safle Pennaeth Datblygu.  Enillodd nifer o gomisiynau yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys “Last Chance to See” a “The Twins of the Twin Towers,” a gyd-gynhyrchodd. Yn 2011 dechreuodd weithio yn llawrydd gan gynhyrchu cynnwys ffeithiol ar gyfer nifer o gwmnïau annibynnol yng Nghaerdydd, Bryste a Llundain. Yn 2017, dyfeisiodd a chynhyrchodd y rhaglen ddogfen “Rhod Gilbert: Stand Up to Shyness” (BBC2) a enwebwyd ar gyfer BAFTA. Yn 2019, cynhyrchodd raglen ddogfen untro am insomnia cronig ar gyfer BBC1 Wales. Ac yna, yn 2020, arweiniodd datblygiad MSPTV ar gyfer y gyfres Ddaearyddol Genedlaethol flaenllaw, “Drain the Oceans”. 

Mae Sally yn Rheolwraig Partneriaeth Sgiliau Media.Cymru.  Fel Hwylusydd Lles, mae’n gobeithio gwneud y sector sgrîn yn lle hapusach ac iachach i weithio ble mai cydweithredu, cyfathrebu a chael cwtsh yn hollbwysig.