Rôl yr Hwylusydd Lles

 

Beth mae’r Hwylusydd Lles yn ei wneud?

Rôl yr Hwylusydd Lles ar gynyrchiadau yw cefnogi a chynghori’r Penaethiaid Adran a Chynhyrchwyr ar y ffordd orau o gyflawni eu dyletswydd gofal cyfreithiol i’r criw* a’r cast fel trydydd parti niwtral.

Gallant helpu i ddad-ddwysáu ac ymchwilio i achosion o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu. Maent yno hefyd i gefnogi’r cast a’r criw yn rhagweithiol gyda’u hiechyd meddwl, eu gwydnwch a’u lles wrth iddynt weithio.

Gall HLl hefyd ddarparu hyfforddiant a chymorth i Benaethiaid Adran a chynhyrchwyr lle bo angen er mwyn lleihau straen ac atal problemau rhag godi o sefyllfaoedd rheoli anodd.

DS: Nid cwnselydd neu therapydd yw’r Hwylusydd Lles ac ni fydd yn gwneud diagnosis o salwch na chyflyrau clinigol.  Fodd bynnag, byddant yn argymell a chyfeirio unigolion at gymorth arbenigol lle bo angen

 

YN YSTOD CYFNOD CYN-CYNHYRCHU

  • Cytuno ar bolisi, codi cwynion a throthwy ar gyfer prosesau bwlio ac aflonyddu.Gweithio gyda’r cynhyrchwyr a’r cwmni cynhyrchu i ddiffinio’r prosesau i ddelio ag unrhyw achosion o fwlio neu aflonyddu gyda’r nod o ddad-ddwysáu, cyfathrebu ac addysg yn y lle cyntaf. Pob dim i gyd-fynd ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau sy’n bodoli eisoes.
  • Ysgrifennu a Chytuno ar y Polisi Iechyd Meddwl a Lles
    Bydd hyn yn gosod naws y cynhyrchiad ac yn helpu i leihau stigma gan ganiatáu i bobl ddod ymlaen.
  • Ysgrifennu a Chytuno ar yr Asesiadau Straen Cynhyrchu / Iechyd Meddwl (Amgylchedd, Cynnwys ayyb)
    Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid cael asesiadau risg straen ac iechyd meddwl. Bydd yr asesiad risg yn ystyried cyd-destun y cynhyrchiad (e.e. lleoliad, cyfyngiadau Covid, bygythiadau eraill) a’r cynnwys (e.e. sgript, demograffeg y criw/actorion) unrhyw ymatebion yn y Cynlluniau Lles Personol ac yn cynnig mesurau rheoli er mwyn helpu atal problemau Iechyd Meddwl, cefnogi’r rhai sydd â phroblemau sy’n bodoli eisoes a hefyd lleihau effaith y cynhyrchiad ar Iechyd Meddwl y criw a’r cast.
  • Cyfathrebu swyddogaeth a phwysigrwydd y rôl i’r Cast a’r Criw
    Mynychu cyfarfodydd cyn-gynhyrchu a Phenaethiaid Adran er mwyn cyflwyno cysyniadau’r HLl i’r uwch-griw a lle bo angen, cynnig hyfforddiant o ran eu cylch gwaith a’r gwahanol bolisïau.
  • Ysgrifennu a chyhoeddi Cynlluniau Lles Personol ar gyfer y criw a’r cast.
    Holiadur yn cael ei roi i’r criw a’r cast cyn y cynhyrchiad fel y gallant ddatgelu unrhyw broblemau, sbardunau posib neu bryderon am eu Iechyd Meddwl a’u Lles. Mae hyn yn llywio’r asesiadau risg ac yn caniatáu i HLl lunio cynlluniau cymorth pe bai angen. Mae’r holiadur Cynllun Lles Personol yn gyfrinachol ac yn wirfoddol.
  • Sefydlu Rhwydweithiau er mwyn cynnig cefnogaeth bellach
    Creu rhwydwaith ar gyfer y cynhyrchiad fel y gall criw a chast drafod unrhyw materion neu fentrau Lles neu Iechyd Meddwl er mwyn cefnogi ei gilydd. Efallai fod gan dau berson yr un salwch ac felly gallant gefnogi ei gilydd drwy’r cynhyrchiad.

 

CYNHYRCHU / ÔL GYNHYRCHU – Rhan-amser ar leoliad yn seiliedig ar asesiadau risg

  • Arwain ar ddad-ddwysáu materion bwlio neu aflonyddu
    Lle bo angen, ymyrryd yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt i ddad-ddwysáu a datrys achosion o fwlio ac aflonyddu drwy hyfforddi Penaethiaid Adran a chriw/cast. Lle bo angen, hwyluso cyfathrebu, ymchwilio ac argymell camau pellach. Diben hyn yw caniatáu i’r cynhyrchiad barhau a bod Penaethiaid Adran yn parhau i ganolbwyntio ar reoli eu timau’n effeithlon. 
  • Gweithredu rheolaethau yr asesiad risg Straen/Iechyd Meddwl. (Gofyniad Cyfreithiol)
    Er enghraifft, lle mae criw wedi datgelu mater neu sbardun gall y HLl drefnu cwrdd yn rheolaidd gyda hwy a chynnig cymorth os gall golygfa/amserlen neu leoliad penodol achosi problem iddynt.
  • Hyfforddi Tîm a Rheolwyr
    Gall HLl gynorthwyo’r Penaethiaid Adran a’u tîm gyda heriau wrth iddynt godi a gallant hefyd ddefnyddio’r tîm o arbenigwyr yn 6ft From the Spotlight pe bai unrhyw heriau angen dull neu strategaeth hyfforddi arbenigol. Gall ymyrryd yn gynnar gyda thimau leihau gwrthdaro a straen a gwella creadigrwydd a lles.
  • Ceisio argymell cymorth
    Bydd y HLl yn cyfeirio’r cast a’r criw at adnoddau a allai eu helpu. Gall hynny fod yn weithwyr clinigol proffesiynol neu’n gymorth yn y gymuned.
  • Awgrymu a gosod Mentrau Atal Cadarnhaol ar gyfer Cynhyrchu
    Er enghraifft, creu lle bach diogel i griw siarad neu atgoffa’r criw i ofalu am eu lles eu hunain gydag awgrymiadau ar hylendid cysgu, rheoleiddio emosiynol, ymwybyddiaeth ofalgar, lleihau trallod ac ati.
  • Cefnogi a goruchwylio’r Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a rolau deuol eraill
    Bydd y HLl yn cynnig cymorth i unrhyw aelodau criw eraill sydd wedi’u hyfforddi fel Cynorthwywyr Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae angen cymorth arnynt hefyd, yn enwedig tra’n gweithio mewn rolau prysur eu hunain. Bydd y HLl yn gweithredu fel cynghorydd i’r CCIM ac yn gwirio eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu ymdopi â’r gofynion.
  • Sicrhau Gwrando gweithredol er mwyn cefnogi’r criw a’r cynhyrchiad
    9 tro allan o 10, gall criw a’r cast elwa o berson annibynnol sydd ag amser i wrando ar eu problemau ac sy’n gallu darparu lle diogel i drafod eu heriau. Mae presenoldeb HLl ar gynhyrchiad yn caniatáu i’r ddeialog hon ddigwydd heb ofni unrhyw gosb.
  • Cydgysylltu ag Iechyd a Diogelwch / Uned / Meddyg y Set ar faterion iechyd meddwl/lles
    Cydgysylltu â’r meddyg i sicrhau bod ymateb cydgysylltiedig i unrhyw ddigwyddiadau neu faterion. Mae iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn gysylltiedig. Er enghraifft, gall blinder neu flinder gwres achosi straen.

 

ÔL-GYNHYRCHU

  • Adolygu a Gwyntyllu
    Bydd HLl yn cynnal adolygiad o’r cynhyrchiad ac unrhyw ddigwyddiadau er mwyn defnyddio unrhyw ddysgu i hwyluso gwelliannau. Byddant hefyd yn arolygu’r criw a’r cast am eu meddyliau a’u barn ar gyfer gwella.
  • Cefnogaeth Barhaus
    Bydd y HLl yn parhau i gefnogi’r cast a’r criw am gyfnod i’w gytuno arno ar ôl i’r cynhyrchiad ddod i ben.

 

Sut mae’r criw a’r cast yn cael mynediad i’r HLl?

Mae’r HLl ar gael ar bob adeg y cytunwyd arni ymlaen llaw naill ai ar gynhyrchu neu o bell.  Lle mae’r asesiadau risg yn amlygu sbardunau allweddol (dyddiau hir, golygfeydd gofidus, ffilmio gyda’r nos ac ati) bydd y HLl yn sicrhau eu bod yn gallu cynnig cymorth priodol. 

Bwlio ac Aflonyddu

Mae unrhyw adroddiadau am fwlio/aflonyddu yn cael eu cymryd o ddifrif a fel trydydd parti gall HLl gynnig cefnogaeth gadarn i’r sawl sydd angen ei sylw. Bydd yr HLl yn helpu’r cynhyrchiad i weithredu 8 Egwyddor BFI ac eraill fel y cynghorir drwy CULT Cymru e.e. Canllawiau Lles Bectu. Bydd yr HLl yn trafod y gweithdrefnau adrodd penodol ar gyfer cynhyrchu gyda’r uwch-griw ac yn glynu wrth y gofynion. Mae HLl wedi’u hyfforddi mewn ffyrdd i lywio a chefnogi wedi honiadau o fwlio ac aflonyddu.

Yn ogystal, mae HLl yn cael eu cefnogi’n llawn gan y tîm yn 6ft From the Spotlight lle gallant gael arweiniad gan dîm o arbenigwyr ymddygiadol, iechyd meddwl a chyfreithiol.

 

Cefnogaeth ar gyfer HLl

Mae gan bob HLl aelod profiadol o’r tîm 6ft From the Spotlight fel eu goruchwyliwr/mentor a bydd yn cael cefnogaeth gadarn eu hunain drwy gydol y cynhyrchiad. Yn ogystal, os oes angen arweiniad arbenigol neu ymyriadau arbenigol arnynt o ran iechyd meddwl, lles, bwlio ac aflonyddu, diogelu neu’r gyfraith – gall HLl cael hynny drwy 6ft From the Spotlight unrhyw bryd.

Darperir cymorth a gwybodaeth ychwanegol am gyfreithiau, polisïau penodol a sefydliadau cymorth gan CULT Cymru.

 

Atebolrwydd HLl

Pe bai cynhyrchiad yn dymuno rhoi adborth ar unrhyw adeg am eu HLl, bydd ganddynt fynediad uniongyrchol i 6ft From the Spotlight. Byddwn yn gweithio gyda chynyrchiadau i sicrhau bod pob HLl yn cael ei osod yn briodol yng nghyd-destun y cynhyrchiad penodol ac anghenion y criw.

*defnyddir y term criw i gynnwys pawb sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni ar gynhyrchu gan gynnwys awduron, ôl-gynhyrchu, arlwywyr, diogelwch ac ati.

Cysylltiadau allweddol ar gyfer y peilot HLl yng Nghymru:

 

Michelle White                                Siân Gale

6ft from the Spotlight                       CULT Cymru

michelle@6ff.org.uk                        sian@bectu.org.uk