Hwyluswyr Lles
Mae iechyd meddwl gwael wedi cael ei gydnabod fel problem ddifrifol ar draws y diwydiannau creadigol ers blynyddoedd lawer ac ymhell cyn y pandemig. Mae wedi arwain at lawer o bobl in cefnu neu’n ystyried gadael y sector o ddifrif.
Arweiniodd awydd cryf i wneud rhywbeth cadarnhaol i gefnogi’r gweithlu presennol ac i wneud y diwydiant yn fwy diogel i newydd-ddyfodiaid at CULT Cymru a 6ft from the Spotlight CIC i ymrwymo i gydweithio i dreialu rôl Hwylusydd Lles gan ddechrau gyda datblygiad cynyddol sector sgrin yn Gymru
Nod yr Hwylusydd Lles yw:
- Darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gynhyrchwyr a phenaethiaid adran ar sut i atal straen, materion iechyd meddwl, bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu gan eu galluogi i gwrdd â’u dyletswydd gofal cyfreithiol i’r gweithlu
- Cefnogi’r holl griw a chast gyda heriau gan gynnwys straen, iechyd meddwl, bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.
Sicrhawyd cyllid drwy Gymru Greadigol a’r Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig i hyfforddi Hwyluswyr Lles yng Nghymru (gweler isod) ac mae Cymru Greadigol bellach yn cefnogi cynllun peilot sy’n galluogi Cwmnïau Cynhyrchu Annibynnol i osod Hwyluswyr Lles ar eu cynyrchiadau.
“Mae gweithlu creadigol gweithgar, ymroddedig a thalentog Cymru yn haeddu gweithio mewn diwydiant lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel, yn derbyn telerau ac amodau teg ac yn gallu cyflawni eu llawn botensial.
Ein nod yn y tymor hwy yw datblygu sector sgrin gynaliadwy sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif sy’n deg, yn gynhwysol ac yn arloesol fel bod y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn dod yn gyrchfan o ddewis i weithwyr creadigol a chwmnïau”.
Siân Gale, Rheolydd Sgiliau a Datblygiad CULT Cymru