Cwrs Pitch Deck – John Yorke Story
Ariennir Hyfforddiant Sector BECTU yng Nghymru yn rhannol gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru trwy brosiect yr undebau creadigol ar y cyd CULT Cymru. Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer cwrs neu ddigwyddiad hyfforddiant, rydych chi’n cytuno i rannu eich data personol gyda’r arianwyr fel rhan o delerau BECTU ar gyfer derbyn y cyllid. Defnyddir y data er mwyn dangos canlyniadau ac allbynnau yn unig ac fe’i cedwir yn ddiogel am gyfnod o 10 mlynedd, fel y nodir yn y cytundebau ar gyfer y cyllid.
Yn ogystal, mae Prospect/BECTU yn defnyddio’r data hwn i ddanfon gwybodaeth am ddigwyddiadau a hyfforddiant BECTU/CULT Cymru yn y dyfodol; eich diweddaru chi gyda newyddion, adnoddau a chyhoeddiadau ac i gysylltu gyda chi ar gyfer unrhyw ymchwil fyddwn ni am gynnal i’r diwydiant. Ni fyddwn yn rhannu neu ddefnyddio eich data heb eich caniatâd chi. Os gwelwch yn dda, arddangoswch eich bod chi’n hapus i BECTU/CULT Cymru gysylltu gyda chi yn y moddau yma trwy ticio ‘ie’ yn yr adran ‘Eich gwybodaeth chi’ ar ddiwedd y ffurflen archebu.
Ar gyfer y cwrs hwn byddwn hefyd yn rhannu eich data gyda’r hyfforddwyr John Yorke Story ar gyfer at ddibenion cofrestru a chyflwyno profiad y cwrs, ac ar gyfer darparu cymuned cyn-fyfyrwyr ôl-gwrs am ddim dewisol. Ar ôl cwblhau’r gwaith o brosesu’r data, mae JYS yn cadarnhau ei ddileu ar unwaith.
Sut i gwyno neu wyrdynnu’ch caniatâd
Os nad ydych chi am dderbyn gohebiaeth bellach gan BECTU/CULT Cymru gallwch dynnu eich enw yn ôl trwy gysylltu gyda’r Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data Tracey Hunt ar datacompliance@prospect.org.uk .
Pe baech ag unrhyw gwestiynau neu bryderon am y data rydym ni yn cadw a sut yr ydym yn ei ddefnyddio, os gwelwch yn dda yn y man cyntaf cysylltwch gydag Adran Hyfforddiant BECTU/CULT Cymru. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cwyno am ddefnydd neu gasglu eich manylion gan yr Adran Hyfforddiant ei hun yna gallwch wneud hynny trwy ebostio’r Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data Tracey Hunt ar datacompliance@prospect.org.uk