Yng Nghymru, mae Hyfforddiant Sector Bectu yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru drwy’r prosiect traws-undebol CULT Cymru.
Trwy gwblhau’r arolwg hwn, rydych yn derbyn y bydd eich data personol yn cael ei rannu gyda’r cyllidwr fel rhan o ofynion Bectu wrth dderbyn yr arian. Dim ond er mwyn dangos canlyniadau ac allbynnau y defnyddir y data, ac fe’i cynhelir yn ddiogel am gyfnod o 10 mlynedd, fel y nodir mewn contractau ar gyfer y cyllid.
Yn ogystal, mae Prospect/Bectu yn defnyddio’ch data cyswllt i anfon gwybodaeth atoch am ddigwyddiadau a chyrsiau hyfforddi Bectu/CULT Cymru yn y dyfodol, eich diweddaru ar newyddion, adnoddau a chyhoeddiadau a chysylltu â chi ar gyfer unrhyw ymchwil i’r diwydiant y gallwn ei gynnal yn y dyfodol. Ni fyddwn ni byth yn defnyddio nac yn rhannu eich data heb eich caniatâd.
Sut i gwyno neu wirdroi eich caniatâd –
Pe nad ydych yn dymuno derbyn cyfathrebiadau gan Bectu/CULT Cymru
bellach, gallwch wirdroi eich caniatâd drwy gysylltu â Tracey Hunt, y Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data – datacompliance@prospect.org.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y data sydd gennym a sut rydym yn ei ddefnyddio, cysylltwch ag Adran Hyfforddiant Bectu/CULT Cymru yn y man cyntaf. Fodd bynnag, os ydych am gwyno am yr Adran Hyfforddiant yn casglu neu ddefnyddio’ch data, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â’r Swyddog Cydymffurfiaeth GDPR Tracey Hunt – datacompliance@prospect.org.uk