Hwylusydd Lles – Grant i gwmnïau cynhyrchu

A fyddai eich cynhyrchiad teledu neu ffilm yn elwa o gefnogaeth Hwylusydd Lles ?

Beth yw Hwylusydd Lles?

Mae hwylusydd Lles yn unigolyn diduedd sydd wedi’i hyfforddi’n llawn a all gynorthwyo’r cwmni i gyflawni dyletswydd gyfreithiol gofal y cast a’r criw, a all gynghori HOD’s ar faterion fel bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, lleihau straen ac atal materion sy’n codi o sefyllfaoedd rheoli anodd. I ddarllen mwy am y rôl cliciwch yma

Mae CULT Cymru, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru wedi dod ynghyd ag arbenigwyr iechyd meddwl a lles 6ft From the Spotlight  i fynd i’r afael â phroblem iechyd meddwl gwael yn y diwydiant drwy roi hwyluswyr lles ar gynyrchiadau.

Rydym am glywed gan unrhyw  gwmni sy’n gweithio ar gynyrchiadau yng Nghymru ar raglenni wedi’u sgriptio neu heb eu sgriptio.

Yn dilyn llwyddiant y peilot Hwylusydd Lles cyntaf mae Cymru Greadigol yn ein cefnogi eto. Gall Cwmnïau Teledu a Chynhyrchu Ffilm wneud cais am grant o hyd at £15,000 i gyflogi Hwylusydd Lles.

Os ydych chi am fod yn rhan o’r cynllun cyffrous hwn, llenwch ein ffurflen gais fer nawr. Cyntaf i’r Felin!! 

Gyda diolch

Tîm CULT Cymru

Os oes gennych ymholidau cysylltwch â Siân Gale ar sian@bectu.org.uk