Hysbysiad Preifatrwydd (WULF)

Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF)

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau a arweinir gan yr Undebau drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru. Mae’r cyllid hwn yn caniatáu i ddysgwyr unigol gael hyfforddiant sgiliau sy’n eu helpu i baratoi ar gyfer byd gwaith.

Er mwyn ichi allu cael cymorth prosiect WULF, bydd angen i Lywodraeth Cymru brosesu data personol amdanoch.

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn eich data personol gan yr Undeb, bydd yn rheoli’r data hwnnw.

Beth fyddwn ni’n ei wneud â’ch data personol?

Yn rhinwedd ein rôl fel rheolwr, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a ddaw i law i’r dibenion isod. Mae’r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn inni allu arfer ein hawdurdod swyddogol ac am resymau sy’n ymwneud â budd y cyhoedd, i helpu unigolion i ddewis cyflogaeth, hyfforddi ar ei gyfer, ei gael a’i gadw.

1. Er mwyn dilysu’r cyllid a ddarperir i’r Undeb.

I’n helpu i ofalu bod Undebau yn bodloni amodau’r cyllid drwy gynnig mynediad i hyfforddiant sgiliau, mae Undebau yn rhoi manylion inni ynghylch unigolion sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant sgiliau. Mae dysgwyr unigol sy’n derbyn hyfforddiant sgiliau drwy Undeb penodol yn cael eu nodi, felly.

2. Er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd WULF.

I’n helpu ni i ddeall effeithiolrwydd y cynllun, efallai y byddwn yn rhannu’ch manylion cyswllt gyda sefydliadau ymchwil cymeradwy sy’n gweithredu ar ein rhan, fel y gallant siarad â chi am eich profiadau. Ni fydd y sefydliadau’n cysylltu â phawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Os bydd ymchwilwyr yn cysylltu â chi, bydd diben y cyfweliad yn cael ei esbonio i chi a byddwch chi’n cael yr opsiwn i beidio â chael eich cyfweld.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich data personol?

Mae cynllun cadw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni gadw’ch manylion am 10 mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol pan oeddech chi’n derbyn cyllid. Pan na fydd angen i ni gadw’ch gwybodaeth mwyach, byddwn yn sicrhau ein bod yn ei dileu mewn ffordd ddiogel.

Eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol

Mae gennych chi’r hawl i:
•         gael mynediad at y data personol rydym yn ei brosesu amdanoch chi;
•         gofyn inni gywiro camgymeriadau yn y data hwnnw;
•         gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (o dan rai amgylchiadau);
•         gofyn am i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau);
cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol o ran diogelu data.

I gael mwy o fanylion am y wybodaeth mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw amdanoch chi a sut y mae’n cael ei defnyddio, neu i ymarfer eich hawliau o dan y GDPR, cysylltwch â

Ebost: WULF@gov.wales

Gallwch gysylltu hefyd â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Ebost: DataProtectionOfficer@gov.wales

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AD
Ffôn: 01625 545 745
Ffacs: 01625 524 610
Ebost: casework@ico.org.uk