Datganiad i’r Wasg
I’w Rhyddhau: Gwener 10fed Hydref 2025
Gwaharddwyd tan: Canol Nos, Iau 9fed Hydref, 2025
Cyswllt: Siân Gale, Rheolydd Sgiliau a Datblygiad, CULT Cymru/Bectu
sian@bectu.org.uk : 075 7067 1867
Sector Creadigol Cymru yn uno i fynd i’r afael ag iechyd meddwl
Mae diwydiannau creadigol Cymru yn cymryd camau beiddgar, cydweithredol i fynd i’r afael â’r heriau iechyd meddwl sy’n effeithio ar y gweithlu creadigol yng Nghymru.
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2025 mae CULT Cymru (Cynllun Undebau Creadigol yn Dysgu ar y Cyd] yn lansio menter arloesol sy’n uno undebau llafur, cyflogwyr, llywodraeth a sefydliadau arbenigol i fynd i’r afael ag iechyd meddwl gwael — yn enwedig ymhlith gweithwyr llawrydd.
Gyda ffocws ar newid diwylliannol hirdymor, y nod yw datblygu Cymru i arwain maes lles diwydiannau creadigol y byd drwy ymgorffori strwythurau cymorth, hyfforddiant ac arferion cynhwysol ar draws sgrin, cerddoriaeth a digwyddiadau byw.
Mae ymchwil wedi dangos bod arferion gwaith gwael, cyflogaeth ansicr, a diffyg cefnogaeth yn cyfrannu at broblemau iechyd meddwl a lles eang ar draws y sector creadigol. Mae’r heriau hyn nid yn unig yn effeithio ar unigolion ond hefyd yn rhwystro cynhyrchiant, creadigrwydd, a’r gallu i ddenu a chadw gweithlu medrus, amrywiol.
Gyda chefnogaeth Cronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru a Cymru Greadigol, mae prosiect Hyrwyddo Iechyd Meddwl a Lles i Bobl Greadigol ‘CULT Cymru’ – partneriaeth rhwng undebau creadigol, cyflogwyr a sefydliadau cymorth – am sbarduno newid diwylliannol hirdymor ac hybu Cymru i’r byd fel model o’r arfer gorau ym maes lles y sector creadigol sy’n denu, cefnogi a chadw gweithwyr proffesiynol a busnesau creadigol o ansawdd uchel.[i]
Mae’r gweithgareddau yn cynnwys:
- Hyfforddiant Iechyd Meddwl, Lles, a Thegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr.
- Hwyluswyr Lles ar gynyrchiadau teledu a ffilm
- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar gyfer gweithwyr digwyddiadau byw a lleoliadau cerddoriaeth, gan gynnwys gweithwyr llawrydd.
- Rhannu a dathlu arfer gorau y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Mae adborth o brosiectau blaenorol wedi bod yn gadarnhaol iawn. Roedd gweithwyr yn adrodd eu bod yn teimlo mwy o sicrwydd, wedi’u cefnogi, ac yn teimlo’n hyderus i godi pryderon.
Nododd cyflogwyr well perthynas, gwell rheoli risg, a gwella polisïau o amgylch urddas a chynhwysiant.
“Rwy’n credu bod y rôl hon yn rhywbeth sydd wedi bod yn absennol yn y diwydiant ffilm+teledu am ddegawdau… mae blynyddoedd o dystiolaeth sydd yn cefnogi’r honiad hwn.” – Adborth gweithiwr
“Er ein bod ni ychydig yn amheus cyn dechrau’r cynllun, roedd ei weithredu’n llawer haws nag a ddisgwylid a’r cefnogaeth gan y cast a’r criw yn gadarnhaol.” – Adborth cyflogwr
Yr Angen am Newid – Ystadegau’r Diwydiannau Creadigol:
- Dywedodd 76% o lawryddion Teledu a Ffilm fod arferion recriwtio gwael wedi effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl (Bectu/CULT Cymru, 2024)
- Cafodd 30% o lawryddion yn y DU feddyliau hunanladdol y llynedd (Film & TV Charity, 2024)
- Profodd 32% o gerddorion benywaidd yn y DU gam-drin rhywiol (Musicians’ Census, 2023)
- Mae 60% o weithwyr creadigol tu ôl i’r llenni yng Nghymru yn mynd trwy anawsterau ariannol (Bectu, 2025)
- Mae 68% o lawryddion creadigol yn ystyried gadael y diwydiant (Cymru Greadigol, 2024)
Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan Grŵp Cynghori o gyflogwyr, undebau, a chyrff diwydiant gan gynnwys TAC, ac mae’n cynnwys partneriaethau gyda 6ft from the Spotlight CIC a Beacons Cymru CIC.
Geiriau Da
Wrth gyhoeddi’r rhaglen yn ystod Diwrnod Iechyd Meddwl Byd-eang, 2025: Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:
“The mental health and wellbeing of our creative workforce is essential for maintaining Wales’ position as a vibrant, world-class destination for creative industries. The statistics are stark – too many talented people are struggling. That’s why I’m proud the Welsh Government is supporting CULT Cymru’s groundbreaking initiative bringing together unions, employers, and specialist organisations in an unprecedented collaborative effort”.
“This programme focuses on practical and embedded solutions, ensuring our creative professionals have the support they need to thrive. By investing in our workforce, we’ll continue to attract and retain the very best talent from around the world who can feel secure in the knowledge there’s dedicated support there for them should they ever need it.”
Simon Curtis, Chair, BEAU Cymru (Broadcasting, Entertainment & Arts Unions Cymru)
“BEAU Cymru is proud of our joint-union initiative and commitment to addressing the structural causes of poor mental health in the creative industries. As highlighted by the unions, meaningful change requires collective action across employers, unions, and policymakers to create safe, supportive working environments for all. We believe that dignity, inclusion, and wellbeing must be embedded in every workplace culture — and this pioneering initiative represents a vital step towards that goal in Wales”.
Dywedodd Siân Gale, Rheolwr Sgiliau a Datblygu, Bectu Cymru /CULT Cymru:
“Ein nod yw gweithio ar y cyd i ddatblygu sector creadigol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol sy’n gynhwysol, teg ac arloesol.
Mae partneriaeth gymdeithasol yn gyfrwng delfrydol i newid diwylliant y diwydiant yn radical fel y gall gweithlu a busnesau creadigol Cymru oroesi a ffynnu mewn amgylchedd lle mae arferion gwaith teg, diogel a chefnogol yn gyffredin.”
Siân Gale, Skills & Development Manager, Bectu/CULT Cymru said:
“Our aim is to work collaboratively to develop a creative sector fit for current and future generations that is inclusive, fair and innovative.
Social partnership is an ideal vehicle to radically change the culture of the industry so that Wales’ creative workforce and businesses can survive and thrive in an environment where fair, safe and supportive working practices are the norm.”
Michelle White, Director, 6ft From the Spotlight CIC, said:
“We have been working with CULT Cymru to develop and embed the role of Wellbeing Facilitator in Wales for the past 5 years. This has been an incredibly fruitful collaboration which has seen us train a network of professionals, work with 38 productions to date and build real momentum around the welfare, mental health and wellbeing of the freelance community in Wales.
Through this work, Wales has become a leading light, helping to define and establish best practice and innovate to embed it directly into production processes”.
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Mae TAC yn falch iawn o gefnogi CULT Cymru gyda’r gwaith i fynd i’r afael ag iechyd meddwl gwael yn y diwydiant. Mae TAC eisoes yn gweithio’n agos ac yn cydweithio’n rheolaidd gyda CULT Cymru i ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant sy’n alinio’r cymorth sydd ar gael i’r sector llawrydd a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru. Mae TAC yn edrych ymlaen at barhau â’r berthynas hon a’i chryfhau.”
Llyr Morus, TAC Chair said:
TAC is extremely pleased to support CULT Cymru with the work to tackle poor mental health in the industry. TAC is already working closely and collaborating regularly with CULT Cymru to provide information and training aligning the support that is on offer to the freelance sector and production companies in Wales. TAC looks forward to continuing with and strengthening this relationship.”
Spike Griffiths, Director, Beacons Cymru CIC said:
“The wellbeing of those working in music is not a side issue, it is fundamental to the future of the music sector. We are proud to support CULT Cymru’s initiative on World Mental Health Day, recognising that access to support, training and open conversations about mental health must become standard practice across the industry.”
Naomi Pohl, MU General Secretary:
“At the same time as providing support for those who need it, as an industry we need to tackle the root causes of poor mental wellbeing. The Musicians’ Census has clearly identified contributing factors such as low pay, career barriers and witnessing or experiencing discrimination.”
WGGB General Secretary Ellie Peers said:
“We know from our members that there are a multitude of factors affecting the mental health of freelancers in the creative industries and we are proud to be a partner in this pioneering, collaborative initiative in Wales.
“It is vital that we work together to tackle the root cause of poor mental health amongst creative freelancers and bring about long-term cultural change to ensure that creators are protected in fair, safe and supportive workplaces.”
Nodiadau i olygyddion
Mae’r sector creadigol yn cyfrannu 5% i economi Cymru. Mae ganddo fanteision ychwanegol sylweddol gan gynnwys diwylliant, celfyddydau, twristiaeth a hyrwyddo iechyd a lles.
Mae CULT Cymru yn bartneriaeth rhwng undebau llafur Bectu, Equity, Undeb y Cerddorion ac Undeb yr Awduron sydd yn cael ei gweinyddu gan Bectu Cymru. Mae’n cael ei ariannu’n bennaf gan Gronfa Ddysgu Undeb Cymru gyda Cymru Greadigol yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles.
Mae CULT Cymru wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda Chwmni Buddiannau Cymunedol Beacons Cymru i gefnogi pobl ifanc yn y diwydiant cerddoriaeth i gael mynediad at gyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
Mae’r rhaglen Hwyluswyr Lles yn cael ei harwain gan grŵp o gyflogwyr, undebau a Teledwyr Annibynnol Cymru [TAC].
Rhwng Medi 2022 a Mawrth 2025, derbyniodd 38 o gynyrchiadau grantiau ar gyfer cefnogaeth Hwylusydd Lles. Mae 10 cwmni cynhyrchu yn elwa o’r rhaglen bresennol sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2026.
Mae CULT Cymru wedi hyfforddi dros 150 o Gynorthwywyr Cyntaf ledled Cymru ac yn trefnu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus iddynt yn rheolaidd.
Mae CULT Cymru wedi sefydlu perthynas newydd gyda Beacons Cymru, yn cefnogi pobl ifanc yn y diwydiant cerddoriaeth, i ddatblygu mwy o grwpiau o Gynorthwywyr Cyntaf Iechyd Meddwl mewn Digwyddiadau Byw/Cerddoriaeth.
…………………………………………………………………………………………………..
Research/Information
Feedback & outcomes from previous CULT Cymru projects around the benefits of the WellBeing Facilitator:
Challenges:
- Long, unsocial working hours
- Financial pressures – lack of work
- Feeling of isolation
- Poor recruitment practices
- Fear of raising issues with production
- Poor welfare – toilets, wet/cold weather gear
- Lack of progression
- Lack of leadership & management skills
- Lack of understanding around EDI
- Low budgets. Late notification of commissions
- Lack of job clarity or support for trainees and their supervisors
Benefits:
- Reassuring – trained person listening
- Created a safe space – confidentiality
- Ability to raise concerns & personal probs.
- Highlighting importance of Welfare
- Improved relationships across the board
- Sign posted to support organisations
- Access to appropriate clothing / facilities
- Establishing ‘Kit4Crew’ via Real SFX
- Support for new entrants & under-represented groups
Benfits Production Companies:
- Confidentiality & impartiality for employer & workforce
- Flagging up potential pinch points in scripts
- Support with MH & Stress Risk Assessments
- Reassurance that workforce could raise personal issues
- Freelancers raising work issues they may not be aware of
- Support in tricky situations – de-escalation
- Creating new policies e.g. Dignity at work
- Support with Diversity & Equity issues – signposting
Mental Health Scoping Report – Equity
Mental Health Charter – Equity
Contact: Siân Gale, Skills & Development Manager. CULT Cymru/Bectu sian@bectu.org.uk.