Bectu, CULT Cymru, a CEN yn lansio prosiect ymchwil arloesol i ymchwilio iechyd meddwl ôl-gynhyrchwyr

Mae Bectu, CULT Cymru, Rhwydwaith Golygyddion Caerdydd CEN a’r Comisiwn Ffilm Prydeinig yn falch o gyhoeddi lansiad prosiect ymchwil arloesol sydd â’r nod o ddeall yr heriau iechyd meddwl sy’n wynebu gweithwyr proffesiynol yn y ôl-gynhyrchu diwydiant teledu, ffilm a sgrin yng Nghymru.  Mae’r prosiect cydweithredol hwn am dynnu sylw at y materion iechyd meddwl sy’n gallu effeithio ar olygyddion, dylunwyr sain, lliw-wyr a gweithwyr ôl-gynhyrchu eraill.

Bydd yr ymchwil yn defnyddio arolygon a chyfweliadau gyda gweithwyr proffesiynol y sector er mwyn archwilio sut mae’r gwaith dwys gyda therfynau amser byr  ̶  a’r amgylchedd o unigedd sy’n gyffredin yn ôl-gynhyrchu  ̶  yn cyfrannu at bryderon iechyd meddwl. Bydd y canfyddiadau’n helpu llunio strategaethau ledled y diwydiant a darparu atebion ymarferol i wella llesiant yn y gweithle.

Mae amcanion allweddol yr ymchwil yn cynnwys:

  • Deall ffactorau straen; a nodi prif achosion heriau iechyd meddwl ôl-gynhyrchu.
  • Archwilio arferion y diwydiant; gan asesu effaith oriau gwaith hir, ansefydlogrwydd bywyd llawrydd a chyweithiau byrdymor ar iechyd meddwl gweithwyr proffesiynol.
  • Darparu mewnwelediadau; a chynnig argymhellion i gyflogwyr, undebau, cyllidwyr, a’r gweithlu ar sut i gefnogi iechyd meddwl yn well wrth ôl-gynhyrchu.

Ynglŷn â’r Partneriaid:

  • Bectu yw’r Undeb Darlledu, Adloniant, Sinema a Theatr, sy’n cynrychioli gweithwyr yn y diwydiannau cyfryngau ac adloniant. Mae’r undeb yn ymgyrchu dros well tâl, gwaith teg, a chefnogaeth iechyd meddwl i weithwyr creadigol.
  • Mae CULT Cymru yn fenter sy’n cefnogi datblygiad gweithwyr creadigol yng Nghymru trwy hyfforddiant, datblygu sgiliau, ac eiriolaeth ar gyfer amgylchedd gwaith gwell.
  • Mae CEN (Cardiff Editors’ Network) / Rhwydwaith Golygyddion Caerdydd yn gymuned o olygyddion a gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu yng Nghaerdydd sy’n cynnig cefnogaeth cymheiriaid, cyfleoedd rhwydweithio, ac yn hyrwyddo arferion gorau yn y diwydiant.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect ymchwil, neu i gymryd rhan, cysylltwch â:

Sian Gale                                                                    Cardiff Editors’ Network
Rheolydd Sgiliau a Datblygiad                                   contact@cardiffeditorsnetwork.co.uk

1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SD
029 2055 4601

I ymateb i’r arolwg, cyrchwch: Arolwg Ôl-Gynhyrchu

 

Rhowch sylw

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .